P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Carl Tubbs, ar ôl casglu cyfanswm o 133 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae miloedd o lesddeiliaid fflatiau yng Nghymru yn wynebu biliau enfawr i dalu am waith adfer cladin a ffurflen EWS1 i gadarnhau nid yn unig nad oes cladin deunydd cyfansawdd alwminiwm (ACM, fel yn achos fel Grenfell) ond hefyd nad oes 'deunydd llosgadwy', ni waeth a oedd yr adeiladau wedi pasio’r rheoliadau o’r blaen ai peidio.

 

Dylai costau’r gwaith atgyweirio hwn gael eu talu gan y Llywodraeth a’r cynghorau gan fod llawer o lesddeiliaid yn methu eu fforddio.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Nid lesddeiliaid a ddylai fod yn gorfod talu am y gwaith atgyweirio hwn, gan fod y gwaith yn cyrraedd y safon gywir cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei chyngor newydd ym mis Ionawr 2020. Ni allwn werthu, nac ailforgeisio, ein fflatiau hyd nes y bydd y gwaith wedi cael ei gwblhau, a hynny oherwydd bod benthycwyr morgeisi yn pennu gwerth SERO iddynt, gan fod ein cartrefi bellach yn cael eu hystyried yn 'anniogel'.

 

Yn Lloegr, mae'r Gronfa Diogelwch Adeiladau yn cael ei defnyddio i helpu'r atgyweiriadau ar adeiladau dros 18 metr, ond mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r arian hwn ar gyfer COVID-19 yn lle. Dylid defnyddio arian Llywodraeth Cymru at yr un diben yng Nghymru ac ar gyfer pob adeilad sy’n fflatiau – gan nad yw'r cyngor newydd ar gyfer adeiladau dros 18 metr yn unig. Er bod y pandemig yn bwysig, mae angen i lesddeiliaid fod yn ddiogel yn eu cartrefi.

 

https://www.gov.uk/government/news/new-1-billion-building-safety-fund-to-remove-dangerous-cladding-from-high-rise-buildings

 

https://medium.com/never-fear/the-grenfell-fire-that-continues-to-burn-7325ca87788c

 

https://www.walesonline.co.uk/news/politics/cardiff-bay-flats-victoria-wharf-18935612

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         De Caerdydd a Phenarth

·         Canol De Cymru